'Does gyffelyb iddo Ef, Ar y ddaear, yn y nef, Trech ei allu, trech ei ras, Na dyfnderoedd calon gas. Tegwch hardd ei wyneb pryd, Gan hawddgarach yw na'r byd; Gwrando'i lais, a gwel'd ei wedd, Bywyd yw tu yma i'r bedd. Nid yw orchest imi'n awr Garu fy Eiriolwr mawr; Nid oes genyf ond Efe, Ar y ddaear, yn y ne'. Caned cenedlaethau'r byd Am ei enw mawr ynghyd; Bloeddied moroedd gyda thir Ddyfnder iachawdwriaeth bur. Na foed neb is awyr lâs Heb gael prawf o'th nefol ras; Doed holl luoedd daear gron, Yfent ddwfr y ffynnon hon. O dy glwyfau rhed i maes Afon ddwyfol loyw lâs, Sydd yn achub, sy'n glanhau, Myrddiwn o'r aflanaf rai. - - - - - 1,2,3; 1,4,5. 'Does gyffelyb iddo Ef, Ar y ddaear, yn y nef; Trech ei allu, trech ei ras Na dyfnderoedd calon gas; A'i ffyddlondeb sydd yn fwy Nag angheuol ddwyfol glwy'. Gair o'i enau sanctaidd Ef 'N awr a'm dŵg i ganol nef; Yn Ei eiriau mae 'r fâth rîn, Dodant nef a dae'r yn un: Gwrando 'i lais, a gwel'd Ei wedd, Yw fy mywyd tu yma i'r bedd. Ti Dy Hunan, Iesu mawr! Yw fy noddfa ar y llawr; Gâd im' gael Dy gwmni cu Nes myn'd trwy'r Iorddonen ddu; Yna deuaf ger Dy fron, Heb ddychrynu gan y dòn. Caned cenedlaethau'r byd Am ei enw mawr ynghyd; Aed i gyrrau pella'r ne', Aed i'r dwyrain, aed i'r de: Bloeddied moroedd gyda thir Ddyfnder iachawdwriaeth bur. Na foed undyn is y rhod Heb ddatseinio i maes ei glod; Na foed neb is awyr las Heb gael praw o'i nefol ras Doed y ddaear fawr yn gron, Yfent ddŵr y ffynnon hon.William Williams 1717-91
Tonau [7777]:
Tonau [777777]: gwelir: Dacw gariad nefoedd wèn Dacw'r ffynnon heddyw gaed Ei gyfiawnder dwyfol Ef Ti dy hunan Iesu mawr Wele gariad nefoedd wen |
There is nothing comparable to Him, On the earth, in heaven, That overcomes his ability, overcomes his grace, Not the depths of a hateful heart. The beautiful fairness of his countenance, Is a hundred times more beautiful than the world; Listening to his voice, and seeing his face, Is life this side of the grave. It is not a task to me now To love my great Mediator; I have no-one but Him, On the earth, in heaven. Let the nations of the world sing Of his great name together; Let the seas shout with land The depth of pure salvation. Let there be no-one under the blue sky Without experience of thy heavenly grace; Let all the hosts of the round earth come, Let them drink the water of this fountain. From thy wounds there flows out A divine river shining blue, Which saves, which cleanses, Myriads of those who are unclean. - - - - - There is nothing comparable to Him, On the earth, in heaven, That overcomes his ability, overcomes his grace, Not the depths of a hateful heart. And his faithfulness is greater Than a deadly divine wound. A word from his sacred mouth Now leads me to the centre of heaven; In his great words there is such merit, They put heaven and earth as one: Listening to his voice, and seeing his countenance, Are my life on this side of the grave. Thou thyself, great Jesus, Art my refuge on earth below! Let me have thy dear company Until I go through the black Jordan; Then I shall come before thee, Without being horrified by the wave. Let the nations of the world sing Of his great name together; Let it go to the furthest corners of heaven, Let it go to the east, let it go to the south: Let the seas shout with land The depth of pure salvation. Let there be no-one under the sky Not resounding out his praise; Let there be no-one under the blue sky Without experience of his heavenly grace; Let the great round earth come, Let them drink the water of this fountain.tr. 2010,23 Richard B Gillion |
|